Cychwyn ar y daith i Ddwyieithrwydd
Beth bynnag yr iaith rydych yn ei siarad gartref, gall addysg gyfrwng Gymraeg roi sgiliau ychwanegol a llawer o gyfleoedd yn y dyfodol i’ch plentyn. Felly os nad ydych yn siarad Cymraeg eich hun, beth am ystyried addysg gyfrwng Gymraeg ar gyfer eich plentyn?
Mae ymchwil eang wedi dangos bod siarad mwy nag un iaith yn gallu rhoi hwb i’ch plentyn mewn llawer ffordd. Gall bod yn ddwyieithog:
- Ei gwneud yn haws dysgu ieithoedd eraill a chyflwyno traddodiadau a diwylliant arall i blant
- Gael effaith positif ar yr ymennydd
- Fod yn fantais amlwg wrth chwilio am waith
.
Gwybodaeth bellach