Cwestiynau i rieni eu gofyn

Wrth ymweld â lleoliad gofal plant posib, dyma rai cwestiynau i chi ofyn i chi eich hun.
Yw e’n groesawus?
- Gawsoch chi groeso?
- Oedd y plant yn edrych yn hapus, gyda diddordeb yn cael eu hysgogi?
- Oedd y staff yn gyfeillgar?
Y Lleoliad
- Oedd y lleoliad yn lan, cynnes, diogel, gyda digon o awyr iach?
- |Oedd parcio i rieni?
- Oes darpariaeth ar gyfer anghenion arbennig?
- Beth am brydau bwyd? Fyddai’r lleoliad yn gallu darparu ar gyfer anghenion dietegol arbennig?
- Oes mynediad i ardal chwarae awyr agored?
Staff
- Oedd y staff yn gyfeillgar?
- Sut oedd y staff yn rhyngweithio gyda’r plant?
- Sut mae’r staff yn annog ymddygiad da?
- Faint o ofalwyr a phlant sydd yn y lleoliad?
Gweithgareddau
- A oes llawer o deganau ac offer chwarae pwrpasol?
- Pa ddefnydd a wneir o deledu neu gemau cyfrifiadur?
- Oedd y gweithgareddau yn amrywiol ac yn ddychmygus?
- A yw bechgyn a merched yn cael eu hannog i gymryd rhan ym mhob gweithgaredd ac i ddefnyddio'r offer i gyd?
- Fydd fy mhlentyn yn cael straeon? A oes llyfrau iddynt edrych arnynt?
A yw’r lleoliad yn gofalu?
- Ydy’r lleoliad yn hyblyg am gyfnod setlo? Ydw i’n gallu aros gyda fy mhlentyn i’w helpu i setlo?
- Sut fydda i yn cael gwybod am gynnydd fy mhlentyn?