Cymraeg i Blant


Mae Cymraeg i Blant yn brosiect Llywodraeth Cymru newydd sy’n canolbwyntio ar gynyddu’r nifer o blant oed meithrin sy’n medru’r Gymraeg. Mae’r Mudiad Meithrin: Arbenigwyr Blynyddoedd Cynnar yn rheoli’r prosiect ar ran Llywodraeth Cymru. Mae Cymraeg i Blant yn rhan allweddol o wasanaeth craidd y Mudiad Meithrin sy’n darparu addysg Gymraeg a gofal plant drwy gyfrwng y Gymraeg o enedigaeth hyd oed cychwyn ysgol.

Prif nod Cymraeg i Blant yw cynyddu’r nifer o blant oed meithrin sy’n medru’r Gymraeg. Cyflawnir hwn drwy rannu gwybodaeth, cyngor a chefnogaeth gyda rhieni ynghylch manteision dwyieithrwydd a phwysigrwydd cyflwyno’r iaith Gymraeg i blant mor gynnar â phosib.

Yn yr adran hon