Wrthi’n ystyried gofal plant?

Dyma ychydig o bethau y dylai rhieni eu hystyried os ydynt am ddefnyddio’r ddarpariaeth gofal plant ym Merthyr Tudful:

  • Meddyliwch am anghenion eich plentyn - mae pob plentyn yn wahanol. A fyddent yn hapusach mewn meithrinfa brysur, fawr neu gyda grŵp llai o dan ofal gwarchodwr plant?
  • Pa mor hen yw eich plentyn? Allech chi ystyried clwb y tu allan i oriau ysgol neu glwb gwyliau ar gyfer eich plant hŷn?
  • Ystyriwch faint o oriau fyddai’n diwallu’ch dymuniadau neu’ch anghenion, ac a fyddai’r oriau hynny’n gyson bob wythnos. Mae rhai lleoliadau gofal plant yn cynnig oriau penodol ond mae eraill yn fwy hyblyg, ac os mai dim ond un bore’r wythnos yr hoffech chi ei gael, gallai gostio llai na £10 y sesiwn i chi.
  • Efallai nad ydych yn gweithio ond yn awyddus i gael ychydig oriau i chi’ch hun yr wythnos, rhywbeth sydd wedi’i brofi i fod o fudd i rieni a phlant! Mae’n bosib y gall cylch chwarae fod yn ddelfrydol i’r ddau ohonoch.
  • Gallech fod yn gweithio’n llawn-amser, yn rhan-amser neu ar shifftiau. Peidiwch ag anghofio bod yn rhaid i gyflogwyr roi ystyriaeth resymol i bob cais am weithio hyblyg. A allai hyn eich helpu chi?
  • A fedrwch chi gael mynediad i ddarpariaeth am ddim? Gall plant 2-3 oed mewn rhai ardaloedd o Ferthyr Tudful gael mynediad i ofal plant am ddim a gwasanaethau eraill trwy’r rhaglen Dechrau’n Deg - cliciwch YMA i ddarganfod mwy.
  • Gallech hefyd gael help gyda chostau gofal plant trwy Gredydau Treth neu Dalebau gan eich cyflogwr. Nid oes rhaid i chi fod yn gweithio i hawlio Credydau Treth Plant (Credyd Treth Plant (moneyhelper.org.uk), ond os ydych chi yn gweithio, gallwch hefyd hawlio Credyd Treth Gwaith (Credyd Treth Gwaith | HelpwrArian (moneyhelper.org.uk)
  • Da gwybod: yn 2017, bydd Cynllun Gofal Plant Di-dreth newydd yn cael ei lansio i ddisodli’r talebau, lle gallwch gael 20c am bob 80c y telir amdano gan y Llywodraeth. Dyma ganllaw gwych i’r cynllun newydd: (https://www.turn2us.org.uk/Benefit-guides/Tax-Free-Childcare/Can-I-get-Tax-Free-Childcare).
  • Cofiwch: gall POB plentyn gael mynediad i 10 awr o addysg feithrin am ddim o’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd. Gall hyn fod mewn meithrinfa ysgol, neu gyda darparwr addysg cofrestredig. Mae pob lleoliad sy’n cynnwys Darparwr Addysg Cofrestredig wedi’u cofrestru gyda’r Awdurdod Addysg Lleol (AALl) i gyflwyno addysg blynyddoedd cynnar, ac fe’u harolygir gan Estyn (AEM ar gyfer Addysg a Hyfforddiant yng Nghymru).

Pa fath o gyfleoedd dysgu a chwarae ydych chi am i’ch plentyn eu profi? Gallai defnyddio mwy nag un lleoliad gofal plant roi cyfleoedd iddyn nhw gwrdd â gwahanol ffrindiau, a chael profiad o chwarae mewn gwahanol leoliadau. A allai hyn weithio i chi?