Gofal Plant ym Merthyr Tudful

Ym Merthyr Tudful, rydyn ni’n ffodus i gael nifer o leoliadau gofal plant rhagorol sy’n cynnwys meithrinfeydd, sefydliadau cyn-ysgol, cylchoedd meithrin, gwarchodwyr plant, clybiau y tu allan i oriau ysgol, a chlybiau gwyliau.

 

Mae mynychu lleoliad gofal plant o safon yn helpu plant i ddatblygu sgiliau cymdeithasol, ieithyddol, emosiynol a gwybyddol, yn ogystal â galluoedd corfforol a fydd yn eu helpu nes ymlaen yn eu bywydau.

 

Ydych chi wedi ystyried gofal plant blynyddoedd cynnar ym Merthyr Tudful?


Ar ryw bwynt, mae pob rhiant a gofalwr plant wedi poeni a allant fforddio mynd yn ôl i weithio neu ddod o hyd i’r opsiwn gofal plant cywir iddyn nhw a’u plant.

Fe allwch fod yn pryderu a yw’n iawn anfon eich plentyn i feithrinfa, cylch chwarae, cylch meithrin neu warchodwr plant, hyd yn oed os nad ydych chi’n gweithio.

Gall y cwestiynau fod yn ddiddiwedd, a gall yr atebion weithiau fod ychydig yn ddryslyd.

Mae astudiaeth ddiweddar gan y London School of Economics a Phrifysgol Rhydychen wedi dangos bod plant dwy a thair oed sy’n mynychu meithrinfeydd yn dangos gwell sgiliau cymdeithasol a chyffredinol, tra bo’r rhai sy’n aros gartref yn dangos sgiliau gwaeth o ran lleferydd a symudiad. Mae’r astudiaeth felly yn dod i’r casgliad fod meithrinfeydd o fudd i blant ifanc.

Creadigrwydd

Datblygiad synhwyraidd

Sgiliau mudol mawr

Annibyniaeth

Sgiliau mudol man

Datblygiad iaith

Sgiliau mathemategol

Sgiliau cymdeithasol

Rhyngweithio’n dda gydag eraill

Meithrinfeydd dydd

Cylchoedd meithrin

Gofal dydd, gofal cofleidiol, clybiau gwyliau ac ar ôl ysgol

Gwarchodwyr plant