Beth allwn ni fel oedolion ei wneud...
Mae’r cyfleodd i blant chwarae yn rhydd- yn enwedig yn yr awyr agored- wedi lleihau yn sylweddol yn ddiweddar..
Oedolion yw un o’r prif rwystrau i blant chwarae yn rhydd.
Dyw hi ddim yn ddiogel, mae’n rhy ddrud, dwi’n rhy brysur – yw rhai o’r esgusodion rydym yn ei ddweud.
Gan fod chwarae o gymaint o les, mae’n bwysig ein bod ni fel oedolion yn rhoi digon o amser i chwarae.
Dyma ambell i awgrym ar sut i hwyluso chwarae:
Peidiwch bryderu gormod - er bod diogelwch plentyn y peth mwyaf pwysig, ni ddylai pryderon oedolion rwystro eich plentyn rhag chwarae tu allan.
Blaenoriaethu amser i chwarae - mae chwarae'r un mor bwysig â gweithgareddau wedi eu strwythuro i ddatblygiad plentyn. Felly ochr yn ochr â gwersi, gwaith cartref neu ymarfer pêl droed, rhowch amser o’r neilltu pob dydd ar gyfer chwarae
Rhowch derfyn amser i fod ar sgrin- er ei bod yn hawdd rhoi ipad neu adael plentyn i wylio teledu, does dim yn fwy llesol na threulio amser yn chwarae allan
Does dim rhaid iddo fod yn ddrud - Does dim angen y tegan diweddaraf are ich plentyn, mae chwarae tu allan am ddim ac mae llawer o syniadau am weithgareddau am ddim neu rad fel chwarae gyda balŵns, dringo coed a gwneud lloches neu dynnu lluniau ar y llawr gyda sialc. Gweler y syniadau isod
Defnyddio pethau sydd o’n gwmpas - Er bod plant yn chwarae gydag unrhyw beth ac yn unrhyw le, mae yna adnoddau y gallwn ei ddarparu er mwyn hwyluso ac annog chwarae. Does dim rhaid i rain fod yn gostus, mae rhai o’r adnoddau mwyaf effeithiol yn rhai sydd o’n gwmpas fel tywod, dwr, cregyn, deunyddiau, bwcedi, bocsys, rhaffau, teiars, poteli, pren a sgrap.
Ewch allan mor aml â phosib - Pan rydym yn gofyn i blant, mae'r mwyafrif yn dweud eu bod yn gwerthfawrogi'r annibyniaeth a’r cyfleoedd i ddarganfod y mae chwarae yn ei gynnig. Nid dim ond mewn cae chwarae mae plant yn hoffi bod. Dewch o hyd i rywle diogel iddynt chwarae ac ymlaciwch wrth iddynt ffynnu
Gwrandewch ar eich plentyn a chymrwch ran – Weithiau bydd plant yn gofyn i chi chwarae, dro arall maent yn fwy cynnil ac ond ein hangen fel adnodd! Felly, gofynnwch, gwrandewch a chymrwch ran.