Chwarae yw popeth


Pan ydych yn gofyn i blentyn beth sy’n bwysig yn ei bywyd, mae chwarae a bod gyda ffrindiau ar ben y rhestr atebion.

Mae chwarae yn rhan hanfodol o fywyd plentyn.

Nid yn unig ydi chwarae yn hwyl, ond mae hefyd o les at ddatblygiad corfforol, emosiynol, addysgiadol a chymdeithasol ac yn ffurfio'r oedolyn ynddynt.

Mae hawl plentyn i chwarae wedi ei  ddiogelu yng Nghonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn. Mae hyn yn cael ei gydnabod gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.

Fel rhieni a gofalwyr, ein dyletswydd ni yw sicrhau bod gan ein plant y lle, amser a chwmni eraill i chwarae.

Chwarae yw popeth…