Datblygiad iaith cynnar
Cefnogaeth iaith a chyfathrebu
Mae cefnogi datblygiad iaith a chyfathrebu plant yn amcan graidd o raglan Dechrau’n Deg
Dysgu mwy….
Cefnogaeth i blant i ddysgu siarad a chyfathrebu
Mae pob plentyn yn haeddu cael y dechrau gorau mewn bywyd ac mae datblygu sgiliau lleferydd ac iaith yn hollbwysig os yw plentyn am gyrraedd ei lawn botensial. Mae angen iddynt allu cyfathrebu er mwyn gallu dysgu yn yr ysgol, cymdeithasu â theulu a chwarae gyda ffrindiau.
Mae ymchwil i ddatblygiad yr ymennydd wedi dangos bod tair blynedd gyntaf bywyd plentyn yn hanfodol i ddatblygiad sgiliau iaith a chyfathrebu da.
Mae’r rhan fwyaf o blant yn datblygu medrau iaith gydag ychydig o broblemau, ond mae angen mwy o gymorth ar rai. Gall hyn ddod oddi wrth aelodau’r teulu, ymarferwyr gofal plant, gweithwyr blynyddoedd cynnar, a phobl yn eu cymuned.
Grwpiau Iaith Cynnar
Ym Merthyr Tudful rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau rhyngweithiol, llawn hwyl AM DDIM i bob teulu â babanod 0-24 mis oed. Maent yn cynnig amser strwythuredig i ymgysylltu a chwarae gyda’i gilydd, awgrymiadau da ar gefnogi datblygiad sgiliau lleferydd ac iaith babanod nawr ac yn y dyfodol.
- Ser Bach (newydd anedig - 3 mis)
- Siarad gyda dy fabi (3-6 mis)
- Mae dy fabi’n anhygoel (6-24 mis)
- Ymchwilwyr Bach (9-15 mis)
- Rhigwm a Rhythm (15-24 mis)
Beth i’w wneud os ydych yn pryderu
Os ydych chi’n pryderu am ddatblygiad lleferydd ac iaith eich plentyn ac yn meddwl y gallai fod angen rhywfaint o gymorth arno/i, siaradwch â’ch ymwelydd iechyd neu’ch meddyg teulu.
Gallwch gysylltu â ni yn y tîm Iaith Gynnar am gefnogaeth gyda datblygiad iaith (0-3 oed) trwy grwpiau neu gefnogaeth unigol. Cysylltwch â ni i ofyn am gefnogaeth Merthyr.ELD@merthyr.gov.uk
Mae pob plentyn o fewn Dechrau’n Deg yn cael ei sgrinio gan ddefnyddio pecyn cymorth Lleferydd ac Iaith WellComm yn 20 mis, 2 flwydd a 3 oed. Mae hyn yn galluogi rhieni a gweithwyr proffesiynol i ddeall a chefnogi anghenion lleferydd, iaith a chyfathrebu plant yn well.
Mae Therapydd Lleferydd ac Iaith Dechrau'n Deg yn asesu plant gyda phroblemau o ran lleferydd ac iaith ac yn darparu rhaglen ofal gynhwysfawr i wella datblygiad lleferydd ac iaith.
Gwefannau perthnasol
Children's speech and language | BBC Tiny Happy People
How can you encourage a child’s language development? | NCT