Grwpiau rhieni, gofalwyr a phlant bach

Grwpiau rhieni, gofalwyr a phlant bach

Mae grwpiau Rhieni/Gofalwyr a Phlant Bach neu Gylch Ti a Fi yn darparu’n bennaf ar gyfer plant dan 2½ oed. Rhaid i rieni a gofalwyr aros gyda’r plentyn, felly nid oes angen i’r grwpiau gofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC).

Mae’r sesiynau’n rhoi cyfle i rieni/gofalwyr neu neiniau a theidiau a phlant gymysgu ag eraill a phrofi amrywiaeth o weithgareddau. Mae Cylch Ti a Fi yn galluogi plant a rhieni/gofalwyr i gymdeithasu mewn lleoliad Cymraeg anffurfiol. Mae croeso i rieni/gofalwyr di-Gymraeg fynychu ac fe’u hanogir i ddysgu Cymraeg gyda’u plant, gan fwynhau storïau, caneuon a rhigymau sylfaenol yn ogystal ag ymadroddion syml i’w defnyddio gartref.

Gwybodaeth bellach