Cyllid Grant y Blynyddoedd Cynnar
Mae gan blant hawl i addysg feithrin ran-amser o’r tymor yn dilyn eu trydydd pen-blwydd. Ym Mwrdeistref Sirol Merthyr Tudful, gwneir darpariaeth i ganiatáu mynediad i addysg gynnar ran-amser ar gyfer pob plentyn tair a phedair oed.
Gellir cael cyllid gan Grant y Blynyddoedd Cynnar i gefnogi’ch plentyn mewn Addysg Gynnar gan 3 Darparwr Addysg Cofrestredig ym Merthyr Tudful.
Mae tri lleoliad wedi’u cofrestru fel Darparwyr Addysg y Blynyddoedd Cynnar ym Merthyr Tudful ac maent wedi’u lleoli yng Nghanolfan Plant Integredig Cwm Golau:
I ddod yn Ddarparwr Addysg Cofrestredig, mae’n rhaid ichi gael eich cofrestru a’ch arolygu gan yr AGC, yn ogystal â’ch arolygu gan ESTYN. Mae arolwg ESTYN yn sicrhau bod plant yn derbyn addysg o safon. Gellir gweld copïau o adroddiadau arolygu ar wefan AGC ac ESTYN.
Fel rhiant/gofalwr, gallwch benderfynu ble’r hoffech i’ch plentyn fynychu (yn amodol ar argaeledd). Dylech gysylltu â’r darparwr o’ch dewis cyn gynted â phosibl, rhag ofn bod ganddynt restr aros am leoedd.
- Bydd gofyn ichi lofnodi Ffurflen Datganiad Derbyn yn nodi faint o sesiynau yr hoffech eu hawlio yn y lleoliad hwnnw, ac yn cadarnhau nad ydych yn hawlio mwy na 5 sesiwn yr wythnos i gyd neu mewn unrhyw leoliad arall.
- Rhaid i blant fod yn byw ym Merthyr Tudful a bydd gofyn ichi ddangos tystysgrif geni’ch plentyn.
- Darperir lleoedd rhan-amser ar gyfer hyd at bum sesiwn 2½ awr yr wythnos, o’r tymor yn dilyn pen-blwydd y plentyn yn dair oed hyd at y tymor ar ôl ei ben-blwydd yn bedair oed.
- Unwaith y bydd cyllid wedi’i gytuno, caiff y taliadau grant eu rhoi’n syth i’r darparwr. Fodd bynnag, codir tâl arnoch am unrhyw gostau gofal plant neu gostau sesiynol ychwanegol.
Os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch am Ddarparwyr Addysg y Blynyddoedd Cynnar, cysylltwch â Sharon Poloha, Athrawes Ymgynghorol y Blynyddoedd Cynnar, neu’r Tîm Blynyddoedd Cynnar ar 01685 727387 / 727374.
Yn yr adran hon
- Cymorth i ddewis gofal plant
- Meithrinfeydd Dydd
- Gwarchodwyr Plant
- Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol
- Grwpiau rhieni, gofalwyr a phlant bach
- Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol
- Clybiau, Cynlluniau Chwarae a Gweithgareddau Gofal Plant Adeg Gwyliau
- Rheoleiddio Gofal Plant
- Cyllid Grant y Blynyddoedd Cynnar
- Cynllun Gwirfoddol Cymeradwy