Cwcis
Pan fyddwch yn defnyddio gwefan Gwasnaeth Gwybodaeth i Deuluoedd Merthyr Tudful (GGD Merthyr), bydd Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) yn storio cwcis ar eich cyfrifiadur er mwyn hwyluso eich profiad o’r wefan ac addasu’r profiad ar gyfer eich defnydd bersonnol chi o’n gwefan.
Ffeiliau bach testun yw cwcis, sy’n cael eu gosod ar eich cyfrifiadur gan wefannau rydych yn ymweld â hwy. Maent yn cael eu defnyddio’n helaeth er mwyn gwneud i wefannau weithio, neu weithio’n fwy effeithlon, yn ogystal â darparu gwybodaeth i berchnogion y wefan.
Mae CBSMT yn defnyddio cwcis er mwyn derbyn cydgasgliad o wybodaeth anhysbys sy’n rhoi gwybod i ni sut mae pobl yn defnyddio’n gwefan ac er mwyn ein helpu ni i wybod pa bethau sy’n ddiddorol ac yn ddefnyddiol iddynt ar ein gwefan. Nid yw CBSMT yn storio gwybodaeth bersonol megis cyfeiriadau e-byst nac unrhyw wybodaeth arall mewn cwci.
Mae’r rhan helaeth o borwyr gwe wedi eu gosod i dderbyn cwcis. Os nad ydych am dderbyn cwcis, efallai bod modd i chi newid y gosodiadau ar eich porwr gwe er mwyn gwrthod pob cwci neu i’ch hysbysu bob tro anfonir cwci at eich cyfrifiadur, ac felly’n rhoi’r cyfle i chi benderfynu pa un ai i dderbyn y cwci ai peidio. Nid yw CBSMT yn gorfodi defnyddwyr i dderbyn cwcis ar eu cyfrifiaduron. Nid yw gwybodaeth cwcis yn cael eu storio ar ein gweinydd. Mae rhai o’r cwcis a fyddai o bosib yn cael eu defnyddio gan CBSMT i’w gweld isod:
Enw | Pwrpas |
---|---|
|
These are used to collect information about how visitors use our website. The cookies collect information in an anonymous form, including the number of visitors to the website, where visitors have come to the website from and the pages they visited. We use the information to compile reports and to help us improve the website. |
Mae’r rhan helaeth o borwyr gwe yn caniatáu rheolaeth dros y rhan fwyaf o gwcis drwy osodiadau’r porwr. Am ragor o wybodaeth ynghylch cwcis, yn cynnwys sut i weld pa gwcis sydd wedi cael eu gosod ar eich cyfrifiadur a sut i’w rheoli a’u dileu nhw, gweler All About Cookies.
To opt out of being tracked by Google Analytics across all websites visit http://tools.google.com/dlpage/gaoptout .
Hysbysu am newidiadau
Wrth i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful greu gwasanaethau newydd, mae’n bosib y bydd angen gwneud newidiadau i’r Polisi Cwci hwn. Os daw newid i’n Polisi Cwci ar unrhyw adeg yn y dyfodol, caiff ei gyhoeddi ar y dudalen hon.
Eich Hawliau
Mae gennych yr hawl i ofyn i Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful beidio a phrosesu eich data personol at ddibenion marchnata. Fel arfer byddwn yn rhoi gwybod i chi (cyn casglu’ch data) os ydy CBSMT yn bwriadu defnyddio’ch data i’r perwyl hynny, neu os ydynt yn bwriadu datgelu eich gwybodaeth bersonol i drydydd person i’r perwyl hynny.
Gallwch arfer eich hawl i atal prosesu o’r fath rhag digwydd drwy dicio blychau penodol ar y ffurflenni mae CBSMT yn eu defnyddio i gasglu’ch data. Gallwch hefyd arfer eich hawl ar unrhyw adeg drwy gysylltu â ni: information.security@merthyr.gov.uk Ffôn: 01685 725000. Gallwch ddarllen Hysbysiadau Preifatrwydd y Cyngor wrth glicio ar y ddolen gyswllt ganlynol: https://www.merthyr.gov.uk/council/data-protection-and-freedom-of-information/privacy-notices/?lang=cy-GB&
O bryd i’w gilydd, gall gwefan CBSMT gynnwys dolennu cyswllt at wefannau eraill neu o wefannau eraill. Os ydych yn dilyn dolen gyswllt at un o’r gwefannau hyn, sylwer bod gan y gwefannau hynny eu polisïau preifatrwydd eu hunain ac nid yw CBSMT yn derbyn cyfrifoldeb nac atebolrwydd dros y polisïau hynny. Gwiriwch y polisïau hyn cyn cyflwyno gwybodaeth bersonol i’r gwefannau hyn.
Yn unol â Rheoliadau Rhyddid Gwybodaeth, mae gennych yr hawl i weld unrhyw wybodaeth amdanoch chi sydd wedi ei gadw. Gallwch ofyn i weld y wybodaeth hon drwy e-bostio data.protection@merthyr.gov.uk neu drwy’r ddolen gyswllt ganlynol https://www.merthyr.gov.uk/council/data-protection-and-freedom-of-information/data-protection-requests/