Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant


Mae Deddf Gofal Plant 2006 yn ei gwneud hi’n ofynnol i bob awdurdod lleol gynnal Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant (CSA).

Nod yr Asesiad

Nod yr asesiad yw rhoi’r wybodaeth sydd ei hangen ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful i nodi bylchau yn y farchnad a chynllunio’r camau i sicrhau gofal plant digonol. Yn y cyd-destun hwn, mae “digonol” yn golygu cael y math a’r maint cywir o ofal plant i ddiwallu anghenion yr holl rieni/gofalwyr yn y gymuned leol, ond gyda ffocws penodol ar ddiwallu anghenion teuluoedd â phlant anabl a’r rhai sydd mewn gwaith neu sy’n chwilio am waith.

Sylwadau ac Awgrymiadau

Rydym yn croesawu unrhyw sylwadau neu awgrymiadau ynglŷn â ffyrdd newydd o asesu a gweithredu gofal plant er mwyn mynd i’r afael â bylchau yn y gwasanaeth.

Os hoffech wybod mwy am y gofal plant sydd ar gael yn eich ardal chi, mae croeso ichi gysylltu â’r Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd.