Clybiau, Cynlluniau Chwarae a Gweithgareddau Gofal Plant Adeg Gwyliau

Clybiau, Cynlluniau Chwarae a Gweithgareddau Gofal Plant Adeg Gwyliau

Cynhelir nifer o gynlluniau chwarae ledled y Fwrdeistref Sirol yn ystod gwyliau ysgol. Gall cynlluniau fod wedi’u seilio ar ofal plant a’u cofrestru gydag AGC neu gallant gynnig mynediad agored.

Clybiau Gofal Plant Adeg Gwyliau a Gofrestrwyd gyda’r AGC

Cynlluniau Chwarae Adeg Gwyliau sy’n Cynnig Mynediad Agored

Gellir cynnal cynlluniau gwyliau Mynediad Agored mewn amrywiaeth o leoliadau gyda neu heb eiddo gan gynnwys canolfannau hamdden/cymunedol, meysydd chwarae awyr agored, cynlluniau chwarae a pharciau.

Mae Cynlluniau Mynediad Agored ar gyfer plant 8 i 14 oed yn bennaf ac mae staff chwarae cymwys yn darparu amgylchedd sy’n galluogi plant i chwarae. Mae’r staff yn darparu amrywiaeth o adnoddau a deunyddiau sy’n sicrhau bod POB plentyn yn cael mynediad i gyfleoedd chwarae o safon. Mae’r cynlluniau chwarae Mynediad Agored yn anelu at fod yn blentyn-ganolog, yn gyfeillgar, yn ddiogel, yn hwyl ac yn gynhwysol i bob plentyn. Mae cynlluniau Mynediad Agored yn golygu mai goruchwylio’r plant yn unig fydd y staff pan fyddant ar y safle ac yn cymryd rhan yng ngweithgareddau’r cynllun. NID ydynt yn darparu gofal plant ac ni allant gyfyngu plant i’r adeilad na’i dir na’u hatal rhag mynd a dod fel y mynnant.

Mae’n bwysig deall y gwahaniaeth rhwng Cynllun Chwarae Adeg Gwyliau sy’n Cynnig Mynediad Agored, a Chlwb Gofal Plant Adeg Gwyliau a Gofrestrwyd gyda’r AGC.

Sylwch: nid yw llawer o’r cynlluniau yn cwblhau eu manylion tan fis cyn y gwyliau. Ni fydd clybiau yn gweithredu os nad oes digon o alw am leoedd. Archebwch yn gynnar i osgoi cael eich siomi.

Gwybodaeth bellach