Rheoleiddio Gofal Plant

Rheoleiddio Gofal Plant

Mae Arolygiaeth Gofal Cymru (AGC) yn gyfrifol am reoleiddio’r gwasanaethau gofal dydd i blant. Mae’r gwasanaethau hyn yn cynnwys Gwarchodwyr Plant, Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Chwarae Cyn-ysgol, Crèches, Clybiau y Tu Allan i Oriau Ysgol a rhai cynlluniau chwarae.

Rhaid i ddarparwyr fod wedi’u cofrestru os ydynt yn gweithredu am fwy na 2 awr mewn un diwrnod neu am fwy na 6 diwrnod mewn unrhyw flwyddyn. Yr AGC sy’n penderfynu pwy all ddarparu gwasanaethau gofal plant, ac mae’n cynnal arolygiadau i sicrhau bod y Safonau Gofynnol Cenedlaethol yn cael eu bodloni.

Rhaid i bob darparwr gofal plant fodloni’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Dydd a Reoleiddir er mwyn cofrestru a chynnal y safonau hyn bob amser wrth weithredu. Prif nodau’r cofrestriadau yw hyrwyddo safonau ansawdd ac amddiffyn plant gan sicrhau eu bod yn derbyn gofal mewn amgylchedd diogel ac addas.

Gellir gweld copïau o Adroddiadau Arolygu AGC ar wefan AGC.

Gwybodaeth bellach