Gwasanaeth Gwybodaeth i Deuluoedd
Merthyr Tudful
Merthyr Tydfil County Borough Council
Room 238, Civic Centre, Castle Street
Merthyr Tydfil CF47 8AN
T: 01685 727400
E:fis@merthyr.gov.uk
- Dod o hyd i ofal plant a gwasanaethau cefnogi teuluoedd ym Merthyr Tudful
- Newyddion a Digwyddiadau
-
Popeth i Chwarae Amdano
-
Be positive, not perfect
-
cychwyn gorau, dyfodol gorau
-
Gwasanethau Gofal Plant
-
Cymorth â chostau gofal plant a ffynonellau ariannol sydd o gymorth
-
Flying Start
-
Gyrfa ym maes Gofal Plant
-
Gwybodaeth, Cyngor a Chymorth
-
Dewis Addysg Cyfywng A Adnoddau A Adnoddau Ar Gyfer Rhieni
- Asesiad o Ddigonolrwydd Gofal Plant
- A ydych yn poeni am ddiogelwch plentyn a allai fod mewn perygl?
- Cwestiynau Cyffredin – Rhieni
- Hyfforddiant
-
Adnoddau
-
Gwybodaeth i ddarparwyr gofal plant
- Coronafeirws (COVID-19)
- Interested in becoming a childminder
Cylchoedd Meithrin a Grŵpiau Chwarae Cyn-ysgol

Mae Cylchoedd Meithrin a Grŵpiau Chwarae cofrestredig yn cael eu rhedeg gan grwpiau cymunedol neu wirfoddol, gan yr Awdurdod Lleol neu gan reolwyr preifat.
Mae’r Cylch Meithrin neu Grŵp Chwarae’n cynnig amgylchedd diogel ac ysgogol lle mae plant yn cael chwarae a dysgu gyda phlant eraill eu cymuned. Mae’r ddau’n cynnig gwasanaeth tebyg ond bod gweithgareddau’r Cylch yn y Gymraeg a rhai’r Grwpiau Chwarae yn y Saesneg.
Mae’r rhan fwyaf o gylchoedd a grwpiau oed meithrin yn cynnig sesiynau bore neu brynhawn, rhwng 2 a 4 awr o hyd, am hyd at 5 diwrnod yr wythnos. Mae rhan fwyaf y plant sy’n mynychu’r cylchoedd a’r grwpiau rhwng dwy a hanner a phum mlwydd oed, ond mae rhai cylchoedd yn fodlon cymryd plant dwy oed. Dim ond yn ystod y tymor ysgol y bydd y rhan fwyaf o gylchoedd a grwpiau yn cyfarfod.
Mae’r staff sy’n gofalu am y plant wedi eu cymhwyso at y gwaith ac yn brofiadol. Yn aml bydd gwirfoddolwyr a rhieni’n cynorthwyo hefyd. Mae’r cylchoedd a’r grwpiau’n cynnig llu o weithgareddau chwarae a dysgu i’r plant.
Mae’n rhaid talu ffi bychan i blentyn gael mynychu Cylch eithrin neu Grŵp Chwarae Cyn-ysgol. Mae’r prisiau’n amrywio, ond fe allech chi fod yn gymwys i gael cymorth ariannol tuag at y gost – edrychwch i weld a ydych chi’n gymwys i gael Credydau Treth.
Mae Cylchoedd Meithrin a Grwpiau Chwarae’n cael eu harolygu gan Arolygiaeth Gofal Cymru ( ASG).
Mae’r Cylchoedd Meithrin yn aelodau o’r Mudiad Meithrin a’r Grwpiau Chwarae’n gallu bod yn aelodau o Gymdeithas Darparwyr Cyn-ysgol Cymru (y WPPA)
Diweddarwyd: Hydref 2019