Cyrsiau Hyfforddiant Blynyddoedd Cynnar


Hyfforddiant y Blynyddoedd Cynnar

Cynigir hyfforddiant gan Grŵp Cynllunio Partneriaeth y Blynyddoedd Cynnar. Mae’r Bartneriaeth yn cynnwys cynrychiolaeth o'r sectorau preifat, gwirfoddol a statudol. Mae'r Bartneriaeth yn gyfrifol am oruchwylio'r gwaith o gyflawni Cynllun Partneriaeth y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer 2022-2027.

Mae Cyfeirlyfr Hyfforddiant y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Merthyr Tudful yn cael ei ddiweddaru bob 6 mis ac fe'i dosbarthir i ddarparwyr Gofal Plant a Gwaith Chwarae ledled y Fwrdeistref Sirol. Mae’r cyfleoedd hyfforddi yn cynnwys ceisio cefnogi darparwyr gofal plant i fodloni Safonau Gofynnol Cenedlaethol Arolygiaeth Gofal Cymru (NMS) yn ogystal â chynnig dull cyfannol o ddatblygu proffesiynol parhaus.

Mae'r cyrsiau ar gael i ymarferwyr sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli yn sector y Blynyddoedd Cynnar, Chwarae a Gofal Plant neu'r rhai sy'n dymuno cael gwaith yn y sector ym Merthyr Tudful. At ddibenion cefnogi anghenion hyfforddi Gweithlu y Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant rydym yn cynnwys yr ymarferwyr hynny sy'n darparu gofal plant i blant hyd at 12 oed – yn unol â'r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir (Diwygiwyd Tachwedd 2023.) Mae hyn yn cynnwys gwasanaethau sy'n gweithio gyda phlant o'r oedran hwnnw ac yn arbennig lleoliadau’r Blynyddoedd Cynnar – Meithrinfeydd Dydd, Cyn Oed Ysgol, Cylch Meithrin, Gwarchodwyr Plant Cofrestredig a Chlybiau y tu allan i’r Ysgol yn ogystal â Chlybiau ar ôl ysgol a lleoliadau gofal plant anghofrestredig.